Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 19 Gorffennaf 2017

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4307


86

<AI1>

Cofnod y Trafodion

Gweld Cofnod y Trafodion

 

</AI1>

<AI2>

Datganiad y Llywydd

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gwnaeth y Llywydd ddatganiad pellach i Bwynt o Drefn a godwyd y diwrnod blaenorol ynghylch y defnydd o iaith yn y Siambr, a’i hysgogodd i ystyried yn fwy cyffredinol y tueddiad diweddar ymhlith yr Aelodau i hwylio’n agos at y gwynt o ran yr iaith a ddefnyddir.

Er bod y Llywydd yn fodlon bod ei hymateb hyd yn hyn wedi bod yn gywir ac yn unol â’n Rheolau Sefydlog, nid oedd yn disgwyl i’r Siambr ddod yn rhywle lle caiff cyhuddiadau ynghylch gonestrwydd personol yr Aelodau eu taflu o gwmpas yn ysgafn neu’n aml. Gofynnodd i’r Aelodau feddwl yn ofalus am y geiriau y maent yn eu defnyddio, a dywedodd na fyddai’n caniatáu i ddull o ymddygiad ddatblygu a fyddai’n fwriadol yn herio ffiniau’r Cynulliad.

 

</AI2>

<AI3>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Dechreuodd yr eitem am 13.31

Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

 

</AI3>

<AI4>

2       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Dechreuodd yr eitem am 14.25

Gofynnwyd y 6 chwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

 

</AI4>

<AI5>

3       Cwestiynau Amserol

Dechreuodd yr eitem am 15.19

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y dirywiad mewn diogelwch mewn carchardai ieuenctid yn sgil cyhoeddi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Carchardai Cymru a Lloegr EM ar gyfer 2016-17?

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:

David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y canllawiau cyfredol ar gyfer rheoli a chael gwared ar strwythurau peryglus, ar ôl i ddyn farw pan ddisgynnodd adeilad yn Sblot ddoe?

 

</AI5>

<AI6>

4       Datganiadau 90 Eiliad

Dechreuodd yr eitem am 15.27

Gwnaeth Ann Jones ddatganiad i nodi 60 mlynedd ers agor yr ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg gyntaf, yn y Rhyl.

Gwnaeth Hannah Blythyn ddatganiad ar brosiect treftadaeth Glofa'r Parlwr Du, Talacre, a fydd yn dadorchuddio ei olwyn pwll a cherfluniau merlyn ar 23 Gorffennaf.

Gwnaeth Dawn Bowden ddatganiad ar "Brosiect Barcud Coch" Ysgol Gynradd Fochriw, sydd â’r bwriad o ddatblygu plant fel dinasyddion sy'n foesegol wybodus.

Gwnaeth Elin Jones ddatganiad ar gau ysgolion cynradd Llanwnnen, Llanwenog a Chwrtnewydd, ac agor ysgol ardal Dyffryn Cledlyn ym mis Medi.

 

</AI6>

<AI7>

5       Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Diwygio Cyllidol - Gwersi gan yr Alban

Dechreuodd yr eitem am 15.33

 

</AI7>

<AI8>

6       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Gyfoeth Naturiol Cymru: Craffu ar adroddiad blynyddol a chyfrifon 2015-16

Dechreuodd yr eitem am 15.57

NDM6366 Nick Ramsay (Mynwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Gyfoeth Naturiol Cymru: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16 - a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mehefin 2017.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI8>

<AI9>

7       Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i ymestyn penodiad Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.37

NDM6369 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Pharagraffau 5(1) a 5(3) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ac o dan Reol Sefydlog 10.5, yn ymestyn penodiad Isobel Garner fel cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru am dair blynedd arall.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI9>

<AI10>

8       Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig

Dechreuodd yr eitem am 16.42

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6371 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:

1. Yn credu:

a) bod Brexit yn galluogi pobl Cymru i gael mwy o reolaeth dros eu bywydau eu hunain drwy ddatganoli pwerau llywodraethol o dechnocrats anetholedig ym Mrwsel i Aelodau'r Cynulliad yng Nghaerdydd ac Aelodau Seneddol yn San Steffan;

b) y gall Brexit greu mwy o ffyniant ar gyfer amaethyddiaeth a'r economi wledig, drwy ddisodli'r CAP gan bolisi amaethyddol wedi'i deilwra'n arbennig ar gyfer anghenion penodol Cymru, gan gyfeirio'n arbennig at gadwraeth a diogelu'r amgylchedd yn seiliedig ar egwyddorion gwyddonol gan achosi costau cymesur i drethdalwyr a busnesau gwledig.

2. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu polisïau eraill wedi'u teilwra'n arbennig ar gyfer ardaloedd gwledig o fewn agenda lleoliaeth sy'n grymuso pobl leol drwy:

a) gwneud penderfyniadau cynllunio mawr gydag effaith andwyol sylweddol ar ansawdd bywyd, megis ffermydd gwynt ymwthiol, yn amodol ar refferenda lleol;

b) gwneud newidiadau mawr i'r ddarpariaeth o ysgolion gwledig a gwasanaethau addysgol eraill yn amodol ar ymgynghori lleol dilys;

c) hwyluso tai gwledig mwy fforddiadwy; a

d) rhoi mwy o flaenoriaeth i ddarparu cyfleusterau GIG mewn trefi gwledig llai.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

46

51

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:

1. Yn credu bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cynnig y cyfle i ddatganoli mwy o bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2. Yn cydnabod y bydd cyfle i leihau faint o fiwrocratiaeth sy'n wynebu ffermwyr Cymru ac yn disgwyl i Lywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflwyno fframwaith ôl-Brexit sy'n cefnogi ffermwyr Cymru.  

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i gefnogi cymunedau gwledig ledled Cymru, drwy ddatblygu mwy o bolisïau wedi'u teilwra'n arbennig ym meysydd iechyd, addysg a thai.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

39

51

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn credu bod y dull gweithredu presennol o ran Brexit drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU yn rhwystro'r Cynulliad rhag arfer pwerau datganoledig ac yn peryglu'r rheolaeth sydd gan bobl yng Nghymru dros eu bywydau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

16

51

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM6371 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:

Yn credu bod y dull gweithredu presennol o ran Brexit drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU yn rhwystro'r Cynulliad rhag arfer pwerau datganoledig ac yn peryglu'r rheolaeth sydd gan bobl yng Nghymru dros eu bywydau.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

16

51

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

</AI10>

<AI11>

9       Cyfnod pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 17.30

 

</AI11>

<AI12>

</AI12>

<AI13>

10   Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 17.32

NDM6370 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Gamblo cymhellol yng Nghymru

 

</AI13>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 17.55

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 19 Medi 2017

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>